Cyfleoedd yng Nghymru
Manylion
- Cyfeirnod:
- 530306
- Lleoliad:
- Pembrokeshire
- Teitl y Swydd
- Technegydd Gwasanaethu dan Hyfforddiant
- Math:
- Cynllun Hyfforddi
- Cymwysterau:
- Dylai eich graddau TGAU fod rhwng A -C
- Oriau:
- 40 awr yr wythnos, Llun-Gwener a Satyrnau o bosib
- Tâl:
- I'w hysbysu
- Manylion:
- Mae cyfle arbennig wedi dod i law sy’n golygu y byddwch yn gweithio i werthwr cerbydau Vauxhall blaenllaw fel technegydd gwasanaethu a diagnosteg cerbydau modur dan hyfforddiant, a hynny mewn amgylchfyd gweithdy prysur. Byddwch yn cyflawni tasgau sy’n ymwneud â chynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur a byddwch hefyd yn rhannol gyfrifol am gynnal a chadw amgylchfyd y gweithdy. Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch yn mynychu un o ganolfannau academi dechnegol y GM (General Motors) sydd ar draws y DU. Bydd y cyfnod hyfforddiant yn cynnwys 17 wythnos o hyfforddiant bloc dros gyfnod o 3 blynedd, gyda gweddill eich amser yn cael ei dreulio gydag adwerthwr GM, lle darperir hyfforddiant ymarferol. Nid oes angen unrhyw sgiliau technegol arnoch ond mae’r swydd hon yn gofyn am sgiliau ym maes Mathemateg a Saesneg. Dylai fod gennych agwedd gadarnhaol a dylech fod yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm. Dylai eich graddau TGAU fod rhwng A -C (neu gyfwerth) os yn bosib, ond gall ymgeiswyr eraill gyflwyno cais.
Cysylltwch a Canolfan Gyrfaoedd Doc Penfro: 01646 623510