Cyfweliadau gyrfaoedd, cyfweliadau
am swyddi, profiad gwaith. Pob un yn rhywbeth y byddai'n dda gennym
gael tipyn o gymorth i baratoi ar ei gyfer. Wedi'r cyfan, po fwyaf
o ragbaratoi a wnawn, gorau oll fydd y canlyniad.
Defnyddiwch y gêm cyfweliad i'ch tywys drwy'r paratoadau
y dylech eu hystyried cyn mynd i gyfweliad ac i helpu i benderfynu
sut i wisgo ar gyfer y digwyddiad arbennig hwnnw.
Defnyddiwch y gêm cyfweliad gyrfaoedd i'ch helpu i ystyried beth
sy'n bwysig cyn mynd i gyfweliad gyrfaoedd.
Defnyddiwch y cyfweliad profiad gwaith i ymgyfarwyddo â'r hyn y
gallech ei ddisgwyl o'ch lleoliad.
Sylwch os gwelwch yn dda y bydd angen ichi osod yr
ategyn flash 6 yn eich porwr i edrych ar y rhain. Os nad oes gennych
chi'r ategyn flash 6 gallwch ei lwytho i lawr o macromedia.
Bydd rhai o'r lincs yma yn agor mewn ffenest newydd.
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn. Ewch!