|
|
Mae’n bosib bod Addysg Uwch (AU) yn ymddangos fel y cam nesaf naturiol ar ôl Lefel A, Lefelau A Galwedigaethol neu Ddiploma Cenedlaethol. Ond, dylech gael syniad clir pam eich bod am fynd ymlaen i AU cyn ymgeisio. Mae myfyrwyr yn rhoi nifer o resymau e.e. er mwyn cael gwell swydd; oherwydd bod eu rhieni nhw am iddynt; mae angen iddynt gael gradd ar gyfer yr yrfa y mae ganddynt ddiddordeb ynddi; oherwydd y bywyd cymdeithasol ardderchog. Pa resymau fyddech chi’n eu rhoi?
Felly, rydych yn gwybod pam eich bod am fynd, yn awr mae angen i chi feddwl yn ofalus am ba bwnc (neu bynciau) yr hoffech eu hastudio, pa fath o gwrs yr hoffech ymgeisio amdano a pha brifysgol fyddai’n fwyaf addas ar eich cyfer chi. Dylech gynllunio o flaen llaw gan fod cyrsiau poblogaidd yn llenwi’n gyflym. Yr amser gorau i ddechrau ymchwilio yw dechrau tymor yr haf, fel y byddwch yn barod i ymgeisio ym mis Medi neu Hydref, ymhell cyn y dyddiad cau, sef Ionawr y 15fed.
 |
 |
 |
 |
Pa Bwnc?
|
 |
 |
 |
| |
Gallech barhau â phwnc presennol fel Mathemateg neu Hanes, neu gychwyn ar bwnc cwbl newydd fel Athroniaeth neu Bensaernïaeth. Mae cyrsiau galwedigaethol sy’n arwain at yrfa benodol e.e. Ffisiotherapi neu Feddygaeth yn opsiwn arall hefyd. |
 |
 |
|
|
 |
|
 |
 |
 |
 |
Pa Gwrs?
|
 |
 |
 |
| |
Dylech ystyried y gwahanol gymwysterau sydd ar gael a’r gwahanol ddulliau o ddysgu e.e. arholiadau neu asesiad parhaus, rhyng-gyrsiau trwchus neu denau. Bydd angen i chi ddewis yr opsiwn sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi: |
 |
 |
|
|
 |
|
|
 |
 |
Gradd |
 |
 |
|
Mae’r rhan fwyaf yn para 3 neu 4 blynedd, er gall cyrsiau fel meddygaeth a gwyddoniaeth filfeddygol bara hyd at 5 mlynedd. Mae’r gofynion mynediad fel arfer o leiaf 2 Lefel A llawn, Lefel A Galwedigaethol 12 uned (AVCE) neu'u cyfwerth. Mae’n bosib y byddwch angen pynciau a graddau penodol hefyd. |
|
|
|
 |
 |
 |
HND (Diploma Cenedlaethol Uwch) |
 |
 |
|
Cyrsiau dwy flynedd mewn pynciau galwedigaethol fel Busnes, TG a Pheirianneg fel arfer. Yn aml, mae hi’n bosib trosglwyddo i 2il neu 3ydd blwyddyn o gwrs gradd perthnasol ar ôl yr HND. Mae’r gofynion mynediad yn amrywio, ond fel arfer fe ofynnir am 1 Lefel A neu gyfwerth. |
|
|
|
|
 |
 |
Gradd Sylfaenol |
 |
 |
|
Cymhwyster newydd sy’n seiliedig ar waith, sy’n cymryd rhyw 2 flynedd i’w gwblhau. Gallech symud ymlaen i gwrs gradd perthnasol wedyn. |
|
|
|
 |
 |
 |
Cwrs Trosi |
 |
 |
|
Os nad ydych wedi astudio pynciau penodol sy’n hanfodol ar gyfer eich cwrs gradd arfaethedig, neu os na wnaethoch yn ddigon da ar y cynnig cyntaf i gychwyn eich dewis o gwrs ar lefel gradd, yna dylech feddwl am gwrs trosi. Maent yn fwy cyffredin mewn pynciau gwyddoniaeth a pheirianneg. |
|
|
|
 |
 |
 |
 |
Pa Brifysgol?
|
 |
 |
 |
| |
Ar ôl penderfynu pa fath o gwrs yr hoffech ei wneud, bydd yn rhaid i chi feddwl am ba brifysgolion a cholegau i ymgeisio iddyn nhw.
Dyma'r math o bethau y mae angen i chi feddwl amdanyn nhw. Pa rai sydd yn bwysig i chi?
- Y math o brifysgol neu goleg: Maen nhw ar bob ffurf a llun oherwydd iddyn nhw gael eu ffurfio ar adegau gwahanol e.e. hynafol; prifysgolion briciau coch;campws; technolegol; prifysgolion newydd a cholegau addysg bellach.
- Maint y coleg neu'r brifysgol.
- Cymysgedd y myfyrwyr - mae gan gwahanol brifysgolion wahanol gymysgedd o fyfyrwyr e.e. cymhareb dynion i fenywod, nifer y myfyrwyr aeddfed neu dramor, cymhareb ymgeiswyr o ysgolion cyhoeddus i ymgeiswyr o ysgolion gwladol.
- Lleoliad: Gogledd, De, Cymru, Canol y Ddinas, Tref, Campws. Pa mor bell yw hi o'ch cartref? Oes digon o bethau i'w gwneud? A fyddai'n rhy hectig i chi?
- Costau byw: fel canllaw syml, mae costau byw yn fwy tua'r de, yn enwedig yn Ne Ddwyrain Llundain, gan gynnwys Llundain.
- BriAcademaidd: Edrychwch ar dablau cynghrair prifysgolion. Mae hyn yn amrywio ar gyfer pob pwnc.
- Cyfleusterau e.g. llyfrgelloedd, labordai cyfrifiaduron, chwaraeon ac ati.
- Bywyd cymdeithasol: clybiau a chymdeithasau myfyrwyr, undeb y myfyrwyr, orielau celf, sinemâu, tafarnau a chlybiau lleol ac ati.
- Llety: Meddyliwch am gost, argaeledd lleoedd mewn neuaddau, a faint o lety preifat sydd ar gael i'w rentu. |
 |
 |
|
|
 |
|
 |
 |
 |
 |
Pethau eraill i feddwl amdanyn nhw
|
 |
 |
 |
|
- Ydy'ch cwrs yn cynnig y cyfle i weithio neu astudio tramor?
- Ydy'ch cwrs yn cynnig unrhyw brofiad gwaith? e.e. blwyddyn allan neu brofiad gwaith integredig. Sut arall allech chi ennill profiad perthnasol?
- Ble mae cynfyfyrwyr wedi mynd? Oes gan y cwrs enw da ymhlith cyflogwyr yn y maes?
- Mae llawer o fyfyrwyr yn gadael y brifysgol cyn gorffen oherwydd iddynt ddewis cwrs neu brifysgol amhriodol. Felly, peidiwch â bod yn un ohonynt a gwnewch eich ymchwil ymlaen llaw!
- Gwiriwch ofynion mynediad ar wefannau prifysgolion unigol neu mewn prosbectysau cyn gwneud cais am unrhyw gwrs. |
 |
 |
|
|
 |
|
|
|
|
|
|
| |
|
 |
 |
Fy e-Ffeil Cynnydd
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn.
Ewch!
|
 |
|
 |
|
|
|