Gyrfa Cymru Arlein
 
16 - 19 oed
 16 - 19 oed / Beth am arian  
   
   
   
   
   
   
 
 
 
 
 
 
Cysylltu â chynghorydd gyrfa
 
Age 16 to 19  
  Beth am Arian?


 
Ysgol, coleg, prifysgol neu waith? Beth bynnag fyddwch yn ei ddewis, mae’n rhaid i chi feddwl am yr arian.

Ar gyfer syniad bras am eich cyllid, dewiswch yr adran isod sydd yn berthnasol i chi:
Beth os ydw i'n aros yn yr ysgol neu’n mynd i goleg AB?
  • Os byddwch yn dechrau cwrs cyn eich pen-blwydd yn 19 oed, yna bydd yr awdurdod lleol yn talu eich ffioedd dysgu.
• Bydd eich rhieni neu’ch gofalwyr yn derbyn budd-dal plant ar eich cyfer tan eich pen-blwydd yn 19 oed.
• 18 oed neu'n hyn? Yna fe allwch fod yn gymwys am Grant Dysgu'r Cynulliad.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg - gall pobl ifanc sydd yn 16 i 18 oed mewn addysg amser llawn wneud cais am Lwfans Cynnal Addysg (EMA) o hyd at £30 yr wythnos.

Beth os ydw i'n mynd i'r brifysgol?
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am gyllid ar gyfer Addysg Uwch, edrychwch ar y dudalen Beth am Arian yn adran Addysg Uwch.
Mynd i mewn i waith neu hyfforddiant?
  . Os ydych chi ar gwrs hyfforddiant cymeradwy bydd eich rhieni'n derbyn budd-daliadau plant hyd nes y byddech yn 19 oed.
• Gall y rhai sydd ar y rhaglen Adeiladu Sgiliau dderbyn o leiaf £50 yr wythnos.
• Mae Prentis Modern Sylfaenol neu Brentis Modern yn derbyn lwfans hyfforddi neu gyflog - o leiaf £50 yr wythnos. Mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael cymorth gyda chostau teithio hefyd.
• Isafswm Cyflog Cenedlaethol - mae hawl gan bobl sydd yn 16 ac 17 oed sydd yn gweithio i gael isafswm cyflog o £3.53 yr awr. Nid yw hyn yn briodol os ydych ar brentisiaeth.
Am fwy o wybodaeth am yr isafswm cyflog cenedlaethol, ewch i wefan Directgov
Os ydych yn ddi-waith
  Bydd eich rhieni neu'ch gofalwyr yn derbyn budd-daliadau plant ar eich rhan chi hyd nes y byddech yn 19 oed, os ydych wedi cofrestru eich bod yn gweithio neu'n hyfforddi gyda'ch canolfan gyrfa lleol.

Fel arfer, ni allwch hawlio unrhyw fudd-daliadau os ydych dan 18 oed. Ond, os ydych yn 18 ac wedi gadael cartref ac yn byw yn annibynnol, efallai y cewch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith a/neu Budd-dal Tai.

Os ydych yn 16 neu’n 17 oed ac wedi gadael gwaith neu hyfforddiant, efallai y cewch hawlio Lwfans Pontio, sef £15 yr wythnos am hyd at 8 wythnos mewn blwyddyn.

Os oes gennych anghenion arbennig neu os na allwch weithio oherwydd rhesymau iechyd, mae lwfansau eraill ar gael.

Bydd y budd-daliadau y gallwch eu hawlio yn dibynnu ar eich sefyllfa bersonol.
 
  Deunydd Perthnasol Gyrfa Cymru Ar-lein:-  
 
clic
 
 
  Related Links:-  
 
Clic - the information website for young people in Wales
 
 
TŴL NEU ADNODD
  * e-Ffeil Cynnydd
  * Dewin CV
  * Gemau Cyfweliad
  * Dewis Dysgu
  * Syniadau am Yrfa
  * Y Byd Gwaith yng Nghymru
  * Lincs
  * Cysylltu â Ni
 
  * Clic Ar-lein


Fy e-Ffeil Cynnydd
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn. Ewch!