Erbyn diwedd Blwyddyn 11, bydd rhaid dewis beth rydych am ei wneud nesaf. Edrychwch ar y ffurflen Meddwl am eich dyfodol, y Syniadau am Yrfa a'r Gemau Cyfweliad am wybodaeth a chyngor.
Gall gweithio trwy'r ymarferion a'r tiwtorialau yn yr e-Ffeil Cynnydd eich helpu i wneud y dewisiadau iawn.
Siaradwch â'ch Cynghorydd Gyrfa yn gynnar yn ystod Blwyddyn 11 er mwyn cael gwybod pa gymorth sydd ar gael yn y chweched dosbarth, yn y coleg, mewn lle hyfforddiant neu'n y gwaith.
Cyrsiau a Chymwysterau
Pa gymwysterau sydd ar gael? Ble gallwch eu cael? Sut mae cymharu cymwysterau?
Beth am arian?
Allwch chi hawlio cymorth ariannol? Sicrhewch eich bod yn deall materion ariannol yn well.
Natur gyfnewidiol byd gwaith
Mae tueddiadau swyddi yng Nghymru'n newid trwy'r amser felly mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r swyddi posibl fydd ar gael yn y dyfodol. Edrychwch ar Y Byd Gwaith Yng Nghymru a Rhagolygon Gwaith er mwyn aros gam ar y blaen.
Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano?
Mae cymwysterau yn bwysig i gyflogwyr ond maen nhw hefyd eisiau recriwtio pobl sydd ag amrywiaeth da o sgiliau. Edrychwch ar yr erthygl isod:
- Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano? - Sgiliau Dyfodol Cymru
Edrychwch ar rai o'r erthyglau ar y safle am fwy o wybodaeth:
- Sgiliau Dyfodol Cymru - Tueddiadau Presennol
- Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano? Sgiliau Dyfodol Cymru
Paratoi i ymgeisio
Rywbryd yn y dyfodol bydd rhaid gwneud cais am gwrs neu swydd. Edrychwch ar rai o'r erthyglau hyn a chreu eich ffurflen gais a'ch CV eich hun yn yr e-Ffeil Cynnydd:
- Ceisiadau ar sbec
- Pwyntiau pwysig - ffurflenni cais
- Pwyntiau pwysig - llythyrau cais
Fy nyddiadur gyrfaoedd
Bydd blwyddyn brysur iawn o'ch blaen gyda gwaith cwrs, arholiadau a dewisiadau gyrfa. Edrychwch ar y tabl dyddiadur a fydd yn eich helpu i gynllunio'ch blwyddyn. Os ydych eisiau gosod targedau a dyddiadau terfyn i'ch hunan, ewch i'r adran Cynllunio i Weithredu.
Cwis
Rhowch gynnig ar gwblhau'r Cwis dewisiadau 16+.
Edrych Ymlaen
Beth am feddwl am fynd i'r brifysgol? Dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynglŷn ag addysg uwch.
|