
Eisiau dysgu yn y gwaith? Yna, meddyliwch am hyfforddi yn y gweithle gyda chwmni lleol neu genedlaethol a gweithio tuag at NVQ (Cymhwyster Galwedigaethol Cyffredinol). Mae NVQs yn dangos bod y sgiliau gennych i wneud math arbennig o swydd, er enghraifft gwaith siop, adeiladu, gofalu a gwaith swyddfa. Mae pob rhaglen hyfforddi a phrentisiaeth yn cynnwys sgiliau allweddol sy'n gysylltiedig â'r cymhwyster hwnnw.
Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyfleoedd i bobl 16 i 19 oed sy'n chwilio am hyfforddiant a phrentisiaethau. Ewch i Byd Gwaith yng Nghymru am y newyddion diweddaraf ar hyfforddi a chyfleoedd.
Beth sydd ar gael?
Gallwch gyfuno gwaith a dysgu trwy ddilyn un o'r rhaglenni hyfforddi yn y gweithle.
Adeiladu Sgiliau
NVQ 1
Prentisiaeth Fodern Sylfaen
Prentisiaeth Fodern
Adeiladu Sgiliau
- Gallwch roi cynnig ar swyddi gwahanol os nad ydych yn siŵr pa fath o swydd rydych am ei chael
- Mae'r hyfforddiant yn para o leiaf 13 wythnos
- Gall helpu gyda'ch Sgiliau Allweddol a'ch sgiliau chwilio am waith
- Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi o £50 yr wythnos o leiaf
NVQ 1
- Byddwch yn mynd ar leoliad gwaith gydag o leiaf un cyflogwr a byddwch yn mynd i'r coleg neu ganolfan hyfforddi am ran o'r wythnos
- Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi – o leiaf £50 yr wythnos
- Byddwch yn gweithio tuag at NVQ lefel 1
- Mae'r hyfforddiant yn para o leiaf 26 wythnos fel arfer
- Os ydych chi'n ennill NVQ lefel 1 gallwch fynd ymlaen i astudio Prentisiaeth Fodern Sylfaenol, Prentisiaeth Fodern neu i gael swydd
Prentisiaeth Fodern Sylfaen
- Hyd at ddwy flynedd o hyfforddiant sy'n arwain at NVQ lefel 2
- Bydd y graddau TGAU (neu'r cyfwerth) y bydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar y gwaith
- Mae'n bosibl y bydd rhaid sefyll prawf mynediad a chael cyfweliad â'r cyflogwr
- Ar gael mewn llawer o feysydd gyrfa fel gofalu, peirianneg, gwaith swyddfa, gwaith adeiladu, chwaraeon a hamdden
- Bydd cyfleoedd yn dibynnu ar le rydych yn byw
- Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi neu gyflog o £50 yr wythnos o leiaf
- Gallai olygu cael rhyddhad dydd neu ryddhad bloc i fynd i goleg neu ganolfan hyfforddi
- Gall arwain at Brentisiaeth Fodern neu swydd.
Prentisiaeth Fodern
- Hyd at dair neu bedair blynedd o hyfforddiant sy'n arwain at NVQ lefel 3
- Fel arfer bydd angen pedair neu bum TGAU gradd C neu uwch (neu'r cyfwerth)
- Efallai y bydd rhaid i chi sefyll prawf mynediad a chael cyfweliad â'r cyflogwr
- Ar gael mewn llawer o feysydd gyrfa fel arlwyo, peirianneg, gweinyddu busnes, gwaith adeiladu, chwaraeon a hamdden
- Bydd cyfleoedd yn dibynnu ar le rydych yn byw
- Byddwch yn ennill cyflog
- Gall arwain at swydd a/neu'r opsiwn o fynd ymlaen i astudio HND, HNC neu radd
Gwybodaeth bellach
Byd Gwaith yng Nghymru am y newyddion diweddaraf ar hyfforddiant a chyfleoedd
Rhaglenni hyfforddi a phrentisiaethau yng Nghymru
|