Eisiau dechrau gweithio?
Efallai y byddwch am dderbyn swydd lle nad oes hyfforddiant yn cael ei ddarparu - yn enwedig os yw'r cyflog yn eithaf da.
Yn y tymor hir, mae'n bosibl nad hyn fydd yr opsiwn gorau oherwydd bod hyfforddiant a chymwysterau'n bwysig am eich llwyddiant yn y dyfodol.
Gwnewch yn siŵr fod unrhyw swydd rydych yn gwneud cais amdani yn cynnig hyfforddiant a rhagolygon da.
Mae gan rai cyflogwyr eu cynlluniau hyfforddi eu hunain (cwmnïau mawr yn bennaf). Gall y rhain gynnig hyfforddiant a rhagolygon gyrfa da.
Mae hawl gan bobl ifanc 16 neu 17 oed sydd â swydd ond ychydig o gymwysterau yn unig i gael amser i ffwrdd â thâl i astudio neu hyfforddi. Gofynnwch i'ch Cynghorydd Gyrfa am amser i ffwrdd i astudio neu hyfforddi neu ewch i wefan Yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Mae hawl cyfreithiol gan bron i bob gweithiwr yn y DU dros 16 oed a hŷn i ennill lleiafswm bob awr. Ni fydd y math o waith maen nhw'n ei wneud, neu faint neu'r math o gwmni yn effeithio ar yr hawl sylfaenol hwn. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr isafswm cyflog cenedlaethol, ewch i wefan Directgov.
Paratoi i wneud cais am swyddi
Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio sut y byddwch yn creu argraff ar gyflogwr a chael y swydd rydych wir ei heisiau.
|