Gyrfa Cymru Arlein
 
Hyd at 16 oed
 Hyd at 16 oed / Help  
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
 
 
 
 
 
 
Cysylltu â chynghorydd gyrfa
 
Hyd at 16 oed  
  Ble alla i gael help?


 
Gall Blwyddyn 11 fod yn gyfnod prysur wrth i chi geisio dewis beth i’w wneud nesaf, ymgeisio am gyrsiau neu hyfforddiant, dechrau adolygu ar gyfer eich arholiadau a delio â’ch bywyd cymdeithasol.

Ond fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun, mae digon o help ar gael. Felly, os ydych chi’n un o’r bobl hynny sy’n morio drwy fywyd neu’n rhywun sydd angen ychydig o help a chyngor ar hyd y ffordd, peidiwch â bod ofn, gofynnwch am help!
Ydych chi eisiau cyngor am eich gyrfa, neu am gyrsiau a gwaith?
  Os ydych chi eisiau unrhyw wybodaeth neu gyngor am yrfaoedd, cyrsiau, gwaith neu hyfforddiant, yna gall Gyrfa Cymru eich helpu. Gallai siarad gyda Chynghorydd Gyrfa eich helpu chi benderfynu ar eich cam nesaf. Gallwn helpu hefyd ar ôl eich canlyniadau arholiad, pa un ai oeddent yn well neu’n waeth na’r disgwyl.

Mae Gyrfa Cymru yn cynnig gwasanaeth cyfleoedd i bobl ifanc. Edrychwch ar gyfleoedd yn eich ardal leol.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’ch ysgol/coleg a chyflogwyr lleol i drefnu gweithgareddau fel sgyrsiau ar bynciau yn ymwneud â gyrfaoedd, diwrnodau menter, mentora a ffug-gyfweliadau. Gallwn helpu hefyd gyda dod o hyd i leoliadau profiad gwaith.

Os ydych angen cefnogaeth ychwanegol cyn symud ymlaen i’ch cam nesaf, yna efallai mai Porth Ieuenctid yw’r ateb.
Aros ymlaen mewn addysg ac angen cyngor am arian?
Gall myfyrwyr sydd yn 16 a 17 oed ac sydd mewn addysg amser llawn neu'r coleg ac yn byw mewn ty lle mae incwm yn llai na £30,000 y flwyddyn, wneud cais am Lwfans Cynnal Addysg a asesir trwy brawf moddion. Gallwch dderbyn rhwng £10 i £30 yr wythnos. Caiff y cynllun ei ehangu yn 2005/6 a phobl sydd yn 18 oed yn 2006/7.

Am fwy o wybodaeth am hawlio lwfansau ewch i wefan y llywodraeth.

Bydd eich rhieni a'ch gofalwyr yn parhau i dderbyn Budd-dâl Plant.
Dechrau hyfforddiant yn y gwaith ac eisiau cyngor am arian?
Os ydych chi ar Brentisiaeth Sylfaenol neu Uwch byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi neu gyflog o £50 yr wythnos o leiaf. Ar gyfer Adeiladu Sgiliau y lwfans yw o leiaf £45 yr wythnos.

O fis Hydref 2004 ymlaen, bydd hawl gennych dderbyn lleiafswm cyflog o £3.00 yr awr os ydych yn 16 neu'n 17 oed ac yn gweithio, nid hyfforddi.

Mae’n werth cofio hefyd ei bod hi’n bosib gael cyfraniad tuag at gostau teithio gydag ambell i gwrs Hyfforddiant yn y Gwaith. Gofynnwch i’ch Cynghorydd Gyrfa cyn rhoi eich llaw yn eich poced - fe all un cwestiwn syml eich helpu i arbed arian.
Dydy bywyd ddim bob amser yn syml! Ydych chi angen cyngor?
Beth bynnag yw’r broblem, mae wastad yn werth siarad am y peth. Os nad ydych yn teimlo y gallwch siarad â’ch teulu a’ch ffrindiau, mae llawer o bobl ar gael a all eich helpu. Wrth rannu problemau cewch help i’w datrys, felly cysylltwch â nhw.

Am fanylion pellach ynglyn â sefydliadau sy'n helpy pobl ifanc, ewch i safle Clic.
 
TŴL NEU ADNODD
  * e-Ffeil Cynnydd
  * Dewin CV
  * Gemau Cyfweliad
  * Dewis Dysgu
  * Syniadau am Yrfa
  * Y Byd Gwaith yng Nghymru
  * Lincs
  * Cysylltu â Ni
 
  * Clic Ar-lein


Fy e-Ffeil Cynnydd
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn. Ewch!