Gyrfa Cymru Arlein
 
Hyd at 16 oed
 Hyd at 16 oed / Dewisiadau 16+ / Rhieni  
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
 
 
 
 
 
 
Cysylltu â chynghorydd gyrfa
 
Hyd at 16 oed  
  Rhieni


Ar ddiwedd blwyddyn 11 fe fydd dau brif ddewis yn wynebu'ch mab neu'ch merch:

  • Aros mewn addysg amser llawn yn yr ysgol neu'r coleg
  • Dechrau mewn gwaith a hyfforddiant

Ei (d)dewis ef neu hi yw hwn, ond mae digon o gefnogaeth ar gael oddi wrth Gyrfa Cymru i'w helpu i ddewis. Bydd ei Gynghorydd/ei Chynghorydd Gyrfa yn yr ysgol yn ei helpu i edrych ar bob opsiwn ac ar beth fydd yn gweddu orau iddo/iddi.

Beth bynnag yw lefel cyflawniad eich plentyn, fe fydd yna rywbeth sy'n addas ar ei gyfer/ei chyfer. Gall rhieni siarad â Chynghorwyr Gyrfa yn ystod nosweithiau rhieni neu mewn digwyddiadau gyrfaoedd, neu gallwn nhw drefnu apwyntiad yn eu canolfan gyrfa neu siop yrfa leol.

Mae dewis yn 16 oed yn dasg anodd. Mae yna lawer o ffyrdd y gall rhieni helpu; dyma rai ohonyn nhw yn unig:

  • Trafod syniadau eich mab neu'ch merch ynghylch gyrfa yn y dyfodol, a'i (h)annog i ystyried pob opsiwn.
  • Cynnig awgrymiadau eich hun, ond bod yn barod iddyn nhw gael eu beirniadu neu eu gwrthod.
  • Trafod ei syniadau â'r Cynghorydd Gyrfa a'r Athro/Athrawes Gyrfa yn ystod nosweithiau rhieni.
  • Mynd i ddiwrnodau neu nosweithiau agored ac achlysuron gyrfaoedd eraill mewn ysgolion a cholegau lleol.
  • Siarad ag athrawon pynciau ynghylch cynnydd eich mab neu'ch merch yn yr ysgol.
  • Rhoi cefnogaeth gyda'u gwaith ysgol a'u hannog i gyflawni eu gwir botensial

Annog

  • gweithgareddau y tu allan i'r ysgol sy'n helpu i ddatblygu sgiliau
  • defnyddio'r wefan hon naill ai gartref, yn yr ysgol neu yn y Ganolfan Gyrfa neu'r Siop Gyrfa
  • agweddau cadarnhaol tuag at gyfle cyfartal
  • eu hannog i fod yn realistig a sicrhau bod ganddyn nhw gynllun wrth gefn rhag ofn bydd eu cynlluniau gwreiddiol yn methu.

 
TŴL NEU ADNODD
  * e-Ffeil Cynnydd
  * Dewin CV
  * Gemau Cyfweliad
  * Dewis Dysgu
  * Syniadau am Yrfa
  * Y Byd Gwaith yng Nghymru
  * Lincs
  * Cysylltu â Ni
 
  * Clic Ar-lein


Fy e-Ffeil Cynnydd
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn. Ewch!