Mae cymwysterau'n dangos eich bod wedi ennill lefel o wybodaeth a gallu mewn pwnc arbennig. Mae'n bwysig cael cymwysterau. Po fwyaf y cymwysterau sydd gennych, gorau fydd eich opsiynau ar gyfer y dyfodol. Mae angen rhai cymwysterau ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi erbyn hyn. Os ydych yn cael graddau da, gallwch symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch.
Gallwch ennill cymwysterau mewn sawl ffordd - yn yr ysgol, y coleg, y gweithle, astudio gartref neu ar y we. A does dim rhaid i ddysgu ddod i ben ar ôl i chi adael yr ysgol!
Y prif gymwysterau i bobl 16-19 oed yw:
TGAU
Lefel AS a Lefel A
BTEC Rhagarweiniol, Cyntaf a Chenedlaethol
NVQ
Bagloriaeth Cymru
Y Fagloriaeth Ryngwladol
Sgiliau Allweddol
Cliciwch yma i weld lefelau'r cymwysterau.
|