Gyrfa Cymru Arlein
 
Hyd at 16 oed
 Hyd at 16 oed / Dewisiadau 16+ / Cymwysterau  
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
 
 
 
 
 
 
Cysylltu â chynghorydd gyrfa
 
Hyd at 16 oed  
  Lefelau Cymwysterau



Dyma ganllaw fras ar gymwysterau ar lefelau gwahanol a lefel y swyddi y gallwch eu cael. Ar ôl cwblhau cymwysterau ar un lefel gallwch symud ymlaen at y lefel nesaf.

Lefel Mynediad
Lefel 1
Lefel 2
Lefel 3
Lefel 4/5

Lefel Mynediad

  • Mae cymwysterau ar y lefel hon yn cynnwys CSE, DOVE a thystysgrifau lefel mynediad eraill
  • Lefel y Swydd – Gweithiwr Di-grefft – yn gwneud gwaith ailadroddus dan oruchwyliaeth, does dim angen llawer o sgiliau

Lefel 1

  • Hefyd yn cael ei alw'n Lefel Sylfaen
  • Mae cymwysterau ar y lefel hon yn cynnwys NVQ level 1, TGAU graddau D-G, TGAU mewn pynciau galwedigaethol DD-GG, CACHE C
  • Lefel y Swydd – Gweithiwr lled-fedrus - yn gwneud gwaith ailadroddus dan oruchwyliaeth sydd angen ychydig o sgiliau

Lefel 2

  • Hefyd yn cael ei alw'n Lefel Ganolraddol
  • Mae cymwysterau ar y lefel hon yn cynnwys NVQ lefel 2, TGAU graddau A*-C, TGAU mewn pynciau galwedigaethol graddau A*A*-CC, Diploma BTEC Cyntaf, Bagloriaeth Cymru (Canolraddol), Tystysgrif CACHE
  • Lefel y Swydd – Gweithiwr Medrus - yn gwneud gwaith medrus dan oruchwyliaeth

Lefel 3

  • Hefyd yn cael ei alw'n Lefel Bellach
  • Mae cymwysterau ar y lefel hon yn cynnwys NVQ lefel 3, lefel AS a lefel A, Diploma Cenedlaethol BTEC, Bagloriaeth Cymru (Uwch), Y Fagloriaeth Ryngwladol, Diploma CACHE
  • Lefel y Swydd – Technegydd – yn fedrus mewn llawer iawn o weithgareddau, yn gallu gweithio ar ei ben ei hun/ ei phen ei hun ac yn gallu goruchwylio eraill os oes angen

Lefel 4 and Lefel 5

  • Hefyd yn cael ei alw'n Lefel Uwch
  • Mae cymwysterau ar y lefel hon yn cynnwys NVQ lefel 4/5, HNC, HND, Gradd, Cymwysterau proffesiynol
  • Lefel y Swydd
    • Technegydd Lefel Uwch - yn gweithio mewn swydd gyfrifol a medrus iawn, yn gweithio'n agos â phobl broffesiynol a gall reoli eraill
    • Proffesiynol - yn meddu ar wybodaeth a sgiliau arbenigol ac yn rheoli eraill
TŴL NEU ADNODD
  * e-Ffeil Cynnydd
  * Dewin CV
  * Gemau Cyfweliad
  * Dewis Dysgu
  * Syniadau am Yrfa
  * Y Byd Gwaith yng Nghymru
  * Lincs
  * Cysylltu â Ni
 
  * Clic Ar-lein


Fy e-Ffeil Cynnydd
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn. Ewch!