Os ydych eisiau aros mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11, gallwch aros yn y Chweched Dosbarth neu fynd i Goleg.
Cyllid yn y chweched dosbarth neu'r coleg
- EMAs -
gall pobl 16 i 18 oed mewn addysg amser llawn wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) a asesir trwy brawf moddion o hyd at £30 yr wythnos
- Bydd yr awdurdod lleol yn talu'ch ffïoedd dysgu os ydych yn dechrau cwrs cyn eich pen-blwydd yn 19 oed
- Bydd eich rhieni neu'ch gofalwyr yn derbyn budd-dal plant i chi tan eich pen-blwydd yn 19 oed.
Chweched Dosbarth
Os oes chweched dosbarth yn eich ysgol, efallai y byddwch yn meddwl aros ymlaen. Byddwch chi mewn lle cyfarwydd gyda disgyblion ac athrawon rydych yn eu hadnabod yn barod. Yn y chweched dosbarth bydd disgwyl i chi fod yn fwy cyfrifol amdanoch chi eich hun a bod yn esiampl i ddisgyblion iau. Fel arfer byddwch yn parhau i wisgo gwisg ysgol, ond gallai hyn fod yn wahanol i wisg gweddill yr ysgol.
Mae chweched dosbarth yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Lefel A a Lefel AS mewn pynciau fel Hanes, Ffrangeg a Chemeg. Mae rhai yn cynnig pynciau cysylltiedig â gwaith hefyd fel Astudiaethau Busnes, Hamdden aThwristiaeth neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnig cyrsiau lefel ganolraddol ac mae'r rhan fwyaf yn cynnig cyfle i ddisgyblion ailsefyll TGAU. Mae trefniadau gan rai ysgolion gydag ysgolion a cholegau lleol eraill fel y gallant gynnig amrywiaeth ehangach o gyrsiau.
Os ydych eisiau astudio yn y chweched dosbarth, ac nid oes un ar gael yn eich ysgol chi, gallech symud i ysgol arall os oes un arall ar gael yn eich ardal leol.
Sut alla i gael mwy o wybodaeth am y Chweched Dosbarth?
- Ewch i noson agored y chweched dosbarth
- Darllenwch y wybodaeth am gyrsiau ym mhrosbectws y Chweched Dosbarth, neu chwiliwch am gyrsiau yn Cyrsiau yng Nghymru
- Siaradwch â'ch athrawon ynglŷn â'r pynciau rydych eisiau eu hastudio
- Siaradwch â'ch Cynghorydd Gyrfa
- Siaradwch â myfyrwyr sydd yn y Chweched Dosbarth yn barod
Coleg
Efallai y byddwch eisiau rhywbeth newydd, felly gallai coleg fod yn opsiwn i chi. Mae dau fath o goleg, chweched dosbarth ac addysg bellach (AB). Mae colegau Chweched Dosbarth yn darparu cyrsiau i fyfyrwyr 16-19 oed ac mae colegau AB yn cynnig cyrsiau i bobl ifanc ac oedolion.
Fel arfer mae colegau'n fwy nag ysgolion a chewch gyfle i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Bydd disgwyl i chi fod yn fwy cyfrifol am reoli'ch amser eich hun yn y coleg, ond bydd help ar gael o hyd os oes angen. Fel arfer gallwch wisgo dillad hamddenol, ond bydd rhaid gwisgo dillad arbennig ar gyfer rhai cyrsiau, e.e. oferôls neu dracsiwt y coleg.
Mae colegau'n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, yn cynnwys cyrsiau Lefel AS a Lefel A a'r cyfle i ailsefyll TGAU. Fel arfer, mae mwy o ddewis o ran cyrsiau cysylltiedig â gwaith mewn colegau.
Sut alla i gael mwy o wybodaeth am Goleg?
- Ewch i'r coleg ar noson agored neu ddiwrnod agored
- Darllenwch brosbectysau colegau, edrychwch ar eu gwefannau neu chwiliwch am gyrsiau trwy ddefnyddio Cyrsiau yng Nghymru
- Siaradwch â'ch Cynghorydd Gyrfa
Gwybodaeth bellach
Cymwysterau yn y Chweched Dosbarth neu'r Coleg
Chwilio am gyrsiau yn y Chweched Dosbarth neu'r Coleg
 |
 |
 |
| |
Cysylltiadau Perthnasol:- |
|
 |
| |
|
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
|
|
 |
 |
 |
|