Ydych chi am siarad â rhywun a chael cyngor?
Llygad Busnes
Gwybodaeth ar gyfer eich busnes
Ffôn : 08457 96 97 98
Ebost: assistance@businesseye.org.uk
Gwefan: www.llygadbusnes.org.uk/index.html
Dyma'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer eich busnes ac mae ar gael am ddim gan lygad Busnes.
Mae'n wasanaeth gwybodaeth di-dâl, diduedd i Gymru a grëwyd er mwyn rhoi cymorth i chi ar bob cam o'ch busnes; un ai os ydych yn cychwyn ar fenter newydd, yn unig fasnachwr yn gwmni sefydledig neu'n cyflogi cannoedd.
Pan ydych yn ffonio'r rhif cost isel, byddwch yn siarad â rhywun o'u Canolfan cyswllt Cymru gyfan, lle bydd eich ymholiad a'ch manylion yn gyfrinachol. Os bydd angen, gallant anfon eich ymholiad at rywun a all ddarparu cymorth pellach i chi sy'n addas i'ch lleoliad, math o fusnes a'r gefnogaeth y mae ei hangen arnoch.
Fel arall medrwch alw heibio canolfan Llygad Busnes leol. Ceir cyfeiriadau post a mapiau yn: www.businesseye.org.uk/localcentre.html

Mae'r wefan yn cynnwys:
- Newyddion – newyddion busnes fel diweddariadau ynglyn â rheoliadau, cynlluniau newydd, a chanllawiau newydd ar gyfer busnesau.
- Digwyddiadau a Chyrsiau - dros 1,000 o seminarau, cynadleddau, cyrsiau hyfforddi, gweithdai, teithiau masnach dramor, arddangosfeydd a digwyddiadau rhwydweithio sydd wedi'u hanelu ar fusnesau yng Nghymru.
- Canllawiau Ar-lein - Cannoedd o gysylltiadau uniongyrchol i daflenni ffeithiau a thaflenni gwybodaeth a gynhyrchwyd gan sefydliadau allanol ar bynciau fel TG, Cyllid, Dechrau Busnes, Adnoddau Dynol a Marchnata.
- Lincs - Cannoedd o ddolennau i wefannau fel cyrff rheoli, clybiau busnes a chyrff cynrychioli.
- Astudiaethau achos - esiamplau o sut y gwnaeth gwahanol fusnesau yng Nghymru ddefnyddio gwasanaeth Llygad Busnes.
- Fforwm - fforwm trafod ar gyfer defnyddwyr i rannu'r awgrymiadau ymarfer gorau, chwilio am bartneriaid busnes a sefydliad cysylltiadau newydd.
- Cylchlythyr - gallwch danysgrifio i dderbyn Cylchlythyr Busnes bob mis trwy e-bost sydd â'r newyddion cefnogaeth busnes diweddaraf, llygad ar reoliadau, gwobrwyon, digwyddiadau a gwefannau defnyddiol sy'n berthnasol i fusnesau yng Nghymru.
<Mynd nôl i dudalen cynnwys Cychwyn eich Busnes eich Hun
|