Gyrfa Cymru Arlein
 
Hyd at 16 oed
 Hyd at 16 oed / Dewisiadau 16+ / Busnes Eich Hun  
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
 
 
 
 
 
 
Cysylltu â chynghorydd gyrfa
 
Hyd at 16 oed  
  Cychwyn Eich Busnes Eich Hun


10 rheswm dros ddechrau eich busnes

Efallai y credwch mai dim ond math arbennig o berson a all ddechrau busnes. Dyw hyn ddim yn wir. Yn syml, rhaid cael llawer o frwdfrydedd a phendantrwydd i ddod trwyddi. Os oes gennych yr agwedd gywir, does dim diwedd i'r hyn y gallwch ei wneud fel eich rheolwr eich hun. Iawn, mae rheoli busnes yn gyfrifoldeb mawr ond ystyriwch y pethau y byddwch yn eu hennill a'u dysgu. Sawl person ydych chi'n eu hadnabod sydd wir yn caru eu swydd ac sy'n awyddus i fynd i'r gwaith bob bore? Efallai mai chi fydd y person hwnnw.

Mae hi mor hawdd cymryd y llwybr hawdd a dilyn y dorf mewn i yrfa 'ddiogel' a synhwyrol. Ond ddylech chi ddim ofni bod yn wahanol - yn enwedig gan fod cymaint o gymorth a chyngor ar gael yng Nghymru. Gallwch gael gwybodaeth am grantiau, sut i farchnata eich busnes a llawer mwy. Byddwch yn synnu ar faint y gallwch ei gyflawni, gyda'r help cywir ac ychydig o hunangred.

Wedi'r cwbl, pwy sydd am dreulio'i fywyd yn aros am y swydd berffaith, pan allwch greu'r swydd honno i chi'ch hun?

10 rheswm dros ddechrau eich busnes

    1. Annibyniaeth
    2. Hyblygrwydd
    3. Cyfleoedd arbennig
    4. Cyfle i fwynhau bywyd!
    5. Rhyddid i wneud yr hyn yr ydych am ei wneud
    6. Dim diwedd i'r pethau y gallwch eu cyflawni
    7. Cyfle i brofi'ch hun
    8. Gallwch ennill beth rydych yn ei haeddu
    9. Cyfle i gyflawni'ch potensial
    10. Chi sy'n rheoli'r busnes

Fe ddechreuon nhw eu busnesau eu hun - gallech chi chi wneud yr un peth!

Fe wnaethom siarad â Robin and Ffion, sydd wedi cychwyn eu busnesau eu hunain yng Nghymru. Mae'r ddau wedi profi problemau a llwyddiannau, wedi cael ofnau a phryderon tebyg, ond mae un peth yn sicr – fyddan nhw ddim wedi newid unrhyw beth.

Robin Wealleans
The Picture Works Ltd - busnes yn y diwydiant fideos a cherddoriaeth - sefydlwyd yn 1996.

Mae Robin Wealleans wedi rheoli ei fusnes eich hun ers iddo adael yr ysgol yn 19 oed i sefydlu ei fusnes ei hun yn nhŷ ei fam. Roedd eisoes ddiddordeb ganddo mewn cerddoriaeth a fideo, felly penderfynodd Robin sefydlu'r busnes ar ôl gweld cyngerdd U2 yng Nghaerdydd yn 1993. Fodd bynnag, doedd y ffaith ei fod e'n ifanc ddim yn beth positif. Roedd bod mor ifanc yn anfantais fawr iddo, gan na chymerodd y banciau ei syniad am fusnes o ddifrif.

"Mae cyfarpar fideo da yn ddrud iawn ac mae prynu'r adnoddau'n dal i fod yn broblem fawr i ni. Roeddwn i'n lwcus oherwydd cefais gefnogaeth fy nheulu a'm ffrindiau ac mae gan ein cwsmeriaid lawer o ffydd ynom ni. Byddwn i'n annog pawb sy'n ystyried dechrau busnes i ddilyn eu breuddwydion. Dyw popeth ddim yn berffaith ond mae'n werth ei wneud er mwyn cael y profiad yn fwy na dim. Bydd rhaid i chi gael cynllun busnes realistig a hyder ond brwdfrydedd yw'r factor pwysicaf oll."

O fewn blwyddyn o sefydlu'r busnes, roedd Robin yn gweithio ar ddigwyddiadau ledled y byd gyda Ministry of Sound, roedd un ohonynt ar gyfer 10,000 o bobl yn Indonesia. Mae'r busnes hefyd wedi rhoi cyfle iddo weithio ar ddigwyddiadau gyda rhai o artistiaid mwyaf y DU, gan gynnwys Fatboy Slim a Super Furry Animals.

"Yn y dyddiau cynnar roeddem ni'n gweithio ar sioeau clybiau bach ond tyfodd pethau'n gyflym, y tu hwnt i bob disgwyl. Rydym wedi gweithio mewn mwy na 40 gwlad, gwnaethom weithio ar sioe enfawr Manic Street Preachers yn Stadiwm y Mileniwm, a llynedd fe gwrddon ni â'r Frenhines! Mae'r oriau'n hir ac mae llawer o bwysau arnom ni, ond mae'r boddhad sy'n dod o'r gwaith yn drech nag elfennau negatif y swydd - jyst ewch amdani!

Ffion Jones
7Twenty - siop chwaraeon eithafol - sefydlwyd ym mis Mai 2003.

"Roeddwn i'n gweithio fel eira-fyrddiwr proffesiynol yn yr Alpau Ffrengig ond gan fod cynhesu byd-eang yn cynyddu gwelais fod y tymhorau sgio yn mynd yn fyrrach - yn para pedwar mis ar y mwyaf. Roeddwn wedi gweithio i ffwrdd o adref am sawl blwyddyn ac roeddwn wastad yn gwybod y byddwn yn dod nôl i fyw. Felly fe ddes i nôl i Ruthun ac fe es i o gwmpas yn chwilio am swydd ond gwelais na fyddwn i'n hapus yn gwneud unrhyw un ohonynt.

"Dw i yn sicr ddim yn berson fydd yn hapus yn gweithio wrth ddesg 9 tan 5. Roedd troi fy niddordeb hamdden yn fusnes yn teimlo fel cam naturiol a fedra i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall. Yn ogystal â sgrialfyrddau, beiciau BMX, beiciau mynydd, byrddau eira a byrddau syrffio, penderfynais ehangu'r busnes trwy werthu dillad â brandiau ffasiynol, fel Billabong a Quicksilver.

Mae'r siop wedi bod yn fwy llwyddiannus nag yr oeddwn i'n disgwyl a llynedd fe wnes i hyd yn oed ddechrau gwerthu gwyliau chwaraeon eithafol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Pan benderfynais fynd amdani, doedd dim syniad gen i ble i ddechrau. Roedd cyngor a chymorth Awdurdod Datblygu Cymru o fantais fawr, wrth chwilio am grantiau a derbynnais gymorth wrth sefydlu nod masnachu.

"Rwy'n cael cymaint o foddhad o weithio i mi fy hun, weithiau rwy'n edrych o amgylch y siop ac yn ystyried y pethau dw i wedi'u cyflawni a dw i'n meddwl 'dw i 'di bod yn llwyddiannus'! Sefydlais 7Twenty oherwydd roeddwn i wrth fy modd â chwaraeon eithafol a dydw i erioed wedi difaru sefydlu'r busnes. Mae gen i syniadau newydd i ehangu'r busnes bob dydd - dw i'n awyddus i weld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol."

< Mynd nôl i dudalen cynnwys Cychwyn eich Busnes eich Hun

 
TŴL NEU ADNODD
  * e-Ffeil Cynnydd
  * Dewin CV
  * Gemau Cyfweliad
  * Dewis Dysgu
  * Syniadau am Yrfa
  * Y Byd Gwaith yng Nghymru
  * Lincs
  * Cysylltu â Ni
 
  * Clic Ar-lein


Fy e-Ffeil Cynnydd
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn. Ewch!