Gyrfa Cymru Arlein
 
Hyd at 16 oed
 Hyd at 16 oed / Dewisiadau 16+ / Busnes Eich Hun  
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
 
 
 
 
 
 
Cysylltu â chynghorydd gyrfa
 
Hyd at 16 oed  
  Cychwyn Eich Busnes Eich Hun


Pa sgiliau sydd eu hangen? 

Efallai y byddwch yn credu bod 'mathau' arbennig o berson yn cynnal busnes. Person gyda chryfderau, sgiliau a nodweddion penodol. Dyw hyn ddim yn wir. Mae nifer o fathau gwahanol o bobl sydd â sgiliau a galluoedd gwahanol yn cynnal busnesau llwyddiannus.

Mae gan y rhan fwyaf o berchnogion busnes rai sgiliau a nodweddion penodol. Caiff y rhain eu crynhoi gan ACRO, sef acronym Saesneg ar gyfer Agwedd, Creadigrwydd, Perthnasau a Threfnusrwydd.

Mae'r wybodaeth isod yn esbonio pob un o'r 4 dimensiwn a cheir hefyd astudiaeth achos i'ch helpu i ddeall y syniad ar waith.

1. Agwedd - Marie Griffiths
2. Creadigrwydd - Sue Wyn-Jones
3. Perthnasau - Annette Chinn
4. Trefnusrwydd - Dynamix

1. Agwedd

Cael yr agwedd gywir yw'r flaenoriaeth bwysicaf os ydych am lwyddo i daro'r nod. Agwedd flaenweithgar yw'r nodwedd hanfodol sy'n peri i bobl wneud rywbeth gwahanol a'u helpu i oresgyn yr anawsterau sy'n sicr o godi ar y daith.

Mae cael agwedd bositif yn ddimensiwn hollbwysig o ymddygiad entrepreneuraidd. Mae hunan-wybodaeth, syniad o hunanymwybyddiaeth gref a hunanhyder yn hanfodol os ydych chi'n mynd amdani.

Bydd canolbwyntio ar eich uchelgeisiau a chael y gallu i gynllunio'n effeithiol yn troi'r gobeithion hyn yn lwyddiannau.

Mae angen i bawb gael nodau. Hebddynt rydym yn tueddu i golli awydd a phwrpas mewn bywyd. Gyda nhw, rydym yn cyflawni mwy o bethau ac mae ein hunanhyder yn cynyddu.

Dangos eich bod am lwyddo - Slimtone

Mae Marie Griffiths yn debyg i gannoedd o bobl flaenweithgar eraill yng Nghrymu sydd wedi llwyddo ym mhopeth maen nhw wedi ceisio'i gyflawni oherwydd ei hagwedd bositif at fywyd.

Roedd Marie yn rheolwr swyddfa llwyddiannus mewn cwmni adeiladu am sawl blwyddyn. Roedd ei hagwedd bositif wedi'i helpu i gyflawni ei huchelgais, tra'n gweithio i rywun arall.

Lansiodd fusnes colli pwysau mwyaf Cymru, Slimtone, wrth iddi geisio colli pwysau ei hunan.

Dyluniodd hi'r busnes gan feddwl am anghenion menywod busnes prysur yn debyg iddi hi, a dechreuodd ddarparu gwybodaeth ar golli pwysau a bwyta'n iach ar y rhyngrwyd. Daeth y busnes yn llwyddiannus iawn ar ôl i agwedd bositif Marie ei helpu i gael erthygl 4 tudalen mewn papur newydd cenedlaethol ac o hynny daeth cannoedd o ymholiadau ynglyn â sut bu i Marie lwyddo.

Fe ddechreuodd ddeall ei hagwedd ei hunan a sylweddolodd ei bod hi wir yn mwynhau rheoli ei bywyd ei hun. Mae Marie wedi dysgu cael ffydd ynddi hi ei hun a dysgu i ddefnyddio gwrthodiadau fel ffordd i'w gwneud hi'n fwy brwdfrydig.

"Gosodais dargedau, fel rhedwr pellter hir, gyda cherrig milltir i fynd heibio iddynt a'u cyflawni. Dysgais i fod yn annibynnol, wnes i wrthod derbyn y drysau a oedd yn cau a defnyddiais wrthodiadau i danio fy mrwdfrydedd."

Mae Marie yn credu'n gryf bod yr agwedd gywir yn eich helpu i daro'r nod.

Gosodwch uchelgeisiau – mae modd i chi eu cyflawni. Cewch weld diwrnodau da a diwrnodau drwg ond yr unig bobl sy'n methu yw'r bobl sydd ddim yn ceisio. Credwch yn eich gallu. Credwch ynoch chi'ch hunan 100%."

[Nôl i'r brig]

2. Creadigrwydd

Does dim rhaid i chi fod yn athrylith i fod yn greadigol. Byddwch yn cynhyrchu syniadau i ddatrys pob problem rydych yn ei wynebu ac yn nodi cyfleoedd newydd.

Chwedl boblogaidd yw bod pobl yn cael eu geni'n greadigol. Mae nifer yn credu bod gan bobl fel Mozart bersonoliaethau creadigol, ac nad oes personoliaeth o'r fath gan y gweddill ohonom. Ond, mae'r potensial gan bob un ohonom i fod yn greadigol.

Ystyr 'creadigrwydd' yw'r gallu i gynhyrchu syniadau a'u rhoi ar waith trwy ddatrys problemau, a nodi a chreu cyfleoedd.

Tra bo nifer o bobl yn meddwl mewn ffordd strwythurol - yn gweithio trwy'r broblem yn rhesymegol mewn camau - ond weithiau mae'n ddefnyddiol meddwl mewn ffordd ddargyfeiriol.

Mae meddwl dargyfeiriol yn hwylus, mae'n ffordd o ddianc rhag y syniadau sydd eisoes wedi'u creu, ac i feddwl am y syniadau mwyaf gwallgof, troi pethau wyneb i waered, cynyddu'r posibiliadau - yna ystyried pob un o ddifrif a phrofi a allant weithio.

Beth bynnag fo'ch dewis, mae meddwl mewn ffordd greadigol yn sgil bywyd, boed hi'n rheoli'ch arian neu ddatrys problemau, mae meddwl creadigol yn golygu creu syniadau a datrysiadau arloesol i ddatrys problemau syml yn ogystal â rhai cymhleth.

Creu datrysiad newydd - Planhigion Fferm Crug

Defnyddiodd cyn-ffermwyr cig eidion Bleddyn a Sue Wyn-Jones o Gaernarfon feddwl dargyfeiriol wrth ystyried problem ariannol fawr, a newidiwyd eu bywydau gan y datrysiad creadigol a ddaeth o hynny.

Yn dilyn yr argyfwng BSE roedd y pâr yn brwydo'n ofer i ennill bywoliaeth o fferm cig eidion 200 erw. Roedd rhaid iddynt newid rhywbeth.

Wrth drafod eu hopsiynau, sylweddolodd y ddau eu bod â diddordeb mawr mewn planhigion egsotig a theithio dramor ac y gall y rhain gynnig ateb posibl i'w sefyllfa anodd.

Yn ystod y degawd diwethaf mae Bleddyn a Sue wedi symud o'u busnes cig eidion a oedd yn colli arian i fenter newydd a phroffidiol - Planhigion Fferm Crug - sy'n tyfu a gwerthu planhigion anghyffredin o ledled y byd.

Mae'r fenter lwyddiannus hon yn rhoi cyfle iddynt deithio trwy lefydd pell tramor - Asia yn bennaf - am dri mis y flwyddyn, yn chwilio am samplau newydd i'w tyfu ar Fferm Crûg.

Er bod rhaid iddynt weithio'n galed ac am oriau hir, mae Bleddyn a Sue wrth eu boddau â'r newid hwn i'w bywydau sydd nawr yn rhoi hyblygrwydd a rhyddid iddynt yn ogystal â sefyllfa ariannol well.

"Mae cymaint yn fwy o hyder a boddhad gennym yn ein swyddi nag oedd gennym gynt. Bydden ni mewn llanast petawn ni'n dal i fod yn ffermio. Yn lle hynny, rydym yn cael boddhad o gynnal y busnes hynod ddiddorol sydd gennym ni."

[Nôl i'r brig]

3. Perthnasau

Mae nifer fach iawn o swyddi heddiw lle nad oes galw i chi gyd-dynnu gyda phobl eraill.

Yr unigolion mwyaf tebygol o lwyddo yw'r rheini sy'n gallu rheoli niferoedd y perthnasau y maen nhw'n ffurfio, boed gyda chyd-weithwyr, cwsmeriaid neu ffrindiau.

Mae rhyngweithio'n dda gyda phobl yn nodwedd hollbwysig sy'n cynnwys ystod eang o sgiliau. Dyw hynny ddim yn dibynnu ar reddf naturiol na natur hyderus.

Er mwyn sefydlu perthnasau llwyddiannus mae'n bwysig deall eich hunan a sut rydych yn perthnasu ag eraill. Hefyd mae'n bwysig cyrraedd cytundeb sy'n gweddu i bawb trwy gydweithio a chyfaddawdu.

Yn aml mae perthnasau gyda phobl eraill yn rhai greddfol iawn, ond mae camau ymarferol y gallwch eu cymryd er mwyn datblygu perthnasau effeithiol. Rhaid cael sgiliau rhyngbersonol er mwyn rhannu gwybodaeth ag eraill mewn ffordd effeithiol trwy wrando, trafod a pherswadio pobl ar adegau.

Mae pobl yn gymhleth. Mae dysgu i adeiladu perthnasau gwell gyda phawb rydych yn delio gyda nhw yn fuddsoddiad hanfodol yn eich llwyddiant personol.

Y cleientiaid sy'n bwysig - Taskforce

Elfen bwysicaf busnes Annette Chinn yw'r bobl. Mae lluoedd o bobl yn dod i'w chanolfan gweithgareddau awyr agored "Taskforce" ym Mro Morgannwg i gael hwyl ac i adeiladu perthnasau cryfach gyda'u ffrindiau a'u cydweithwyr.

 

Mae llwyddiant yr ymweliadau hyn a llwyddiant y fenter gyfan yn dibynnu ar y croeso a'r gefnogaeth y mae Annette a'r 25 o aelodau staff yn rhoi i'r ymwelwyr.

Sefydlodd Annette Taskforce fel canolfan 'paintball' yn 1989 wedi iddi benderfynu troi ei diddordeb hi tuag at y gêm yn fenter busnes.

Fe wnaeth ei manwl gywirdeb a'i gofal dros ei chwsmeriaid ei busnes yn fwyfwy poblogaidd wrth i'r blynyddoedd fynd heibio. Mae cyfartaledd o 250 o bobl yn ymweld â'r ganolfan bob penwythnos, gan gynnwys grwpiau mawr o gwmnïau enwog.

Oherwydd bod ganddi berthnasau mor bositif gyda'i chwsmeriaid, llwyddodd y cwmni i gadw cleientiaid er gwaethaf dyfodiad clwy'r traed a'r genau a leihaodd fynediad i'r ardal yn aruthrol.

Yn fwy diweddar, mae Annette wedi amrywio'r busnes er mwyn cynnig ystod ehangach o weithgareddau i'w chleientiaid, fel saethu colomennod clai, saethyddiaeth, pysgota â phlu a heboga.

Mae hi wedi buddsoddi llawer mewn sgiliau ei staff fel y gallant drosglwyddo'r cynnyrch amrywiol mewn ffordd effeithiol. Mae'r busnes wedi parhau i gynyddu o ganlyniad.

"Mae ein llwyddiant hyd heddiw yn dibynnu ar ein gwybodaeth, ein sgiliau a'n hagwedd tuag at ein cleientiaid. Rydym wedi hyfforddi ein staff i ganolbwyntio ar gyfathrebu a pherthnasau er mwyn datblygu gwerthfawrogiad, proffidioldeb a thyfiant."

[Nôl i'r brig]

4. Trefnusrwydd

Er mwyn trefnu'n dda, rhaid deall sut i drin sefyllfaoedd a thasgau, cynllunio ar gyfer yr hyn rydych am ei gyflawni, ystyried yr adnoddau sydd ar gael a'r penderfyniad y mae'n rhaid eu gwneud.

Rhaid cael sgiliau trefnu mewn bywyd bob dydd. Mae'n cynnwys y gallu i wneud penderfyniadau gwybodus, gosod nodau, cwblhau tasgau mewn pryd, gwneud gwaith ymchwil, cynllunio, delio â pheryglon ac wynebu nifer o ofynion ymarferol eraill sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Wrth reoli perygl, cofiwch fod cymryd risg er mwyn cyflawni rhywbeth arbennig yr un mor bwysig â lleihau'r risg.

Y dewis cywir - Dynamix

Mae'n amlwg bod cwmni sydd â 15 o gyfarwyddwyr sy'n berchen ar y busnes ac yn ei gynnal a gweithio amdano yn deall gwerth sgiliau trefnu. (Mae hawl gan yr holl weithwyr ddewis bod yn gyfarwyddwyr).

Mae Dynamix, a sefydlwyd yn 1988, yn gydweithfa o weithwyr sy'n darparu hyfforddiant a hyrwyddiad, a phecynnau a chyhoeddiadau sy'n helpu pobl i ystyried materion difrifol megis cynhwysiad, bwlïo a'r amgylchedd, mewn ffordd hwyl.

Mae'r cwmni wedi'i leoli yn Abertawe, ond mae gweithwyr Dynamix yn treulio llawer o amser yn teithio ar hyd a lled y DU ac mor bell â'r Eidal a'r Ffindir. Maen nhw'n hyrwyddo newid cymdeithasol a chydraddoldeb trwy gynnal gweithgareddau creadigol sy'n rhoi grym i'r cleientiaid.

Cafodd sgiliau trefnu Dynamix eu hamlygu'n ddiweddar pan osododd Swyddog Diogelwch Tân orchymyn diogelwch ar eu swyddfeydd, a oedd mewn adeilad rhestredig lefel dau. Roedd rhaid iddynt adleoli ar fyr rybudd, tra'n cadw eu gwasanaethau yn ystod adeg fwyaf prysur y flwyddyn, ac roedd hyn yn her fawr iawn iddynt.

Gan ddefnyddio sgiliau trefnu datblygedig Dynamix, fe newidion nhw'r 'argyfwng' yn gyfle i brynu swyddfeydd newydd yn hytrach na'u rhentu. Roedd cyfrifoldeb gan yr holl weithwyr/cyfarwyddwyr dros y systemau a'r cyfarpar a oedd yn cynnwys llyfrgell, cannoedd o eitemau syrcas, pypedau a rhwydwaith o gyfrifiaduron, ac fe barhaodd y cwmni i gyflawni eu contractau i'r safonau uchaf.

Nod hirdymor Dynamix yw bod yn berchen ar swyddfa a man hyfforddi hygyrch.

"Os ydych wedi creu strwythur cefnogi cryf, gallwch droi peryglon yn gyfleodd. Fe roddodd yr 'argyfwng' gyfle i ni wireddu ein breuddwydion."

[Nôl i'r brig]

< Mynd nôl i dudalen cynnwys Cychwyn eich Busnes eich Hun

 

 
TŴL NEU ADNODD
  * e-Ffeil Cynnydd
  * Dewin CV
  * Gemau Cyfweliad
  * Dewis Dysgu
  * Syniadau am Yrfa
  * Y Byd Gwaith yng Nghymru
  * Lincs
  * Cysylltu â Ni
 
  * Clic Ar-lein


Fy e-Ffeil Cynnydd
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn. Ewch!