Oes eisiau help arnoch i weithio allan beth i'w wneud nesaf?
Ydych chi'n chwilio am swydd, coleg neu gwrs hyfforddi? Gormod yn digwydd yn eich bywyd i ddewis gwaith neu hyfforddiant?
Os ydy'r pethau hyn yn swnio'n gyfarwydd, yna gallai Porth Ieuenctid fod yn ddelfrydol i chi!
Rhowch gynnig ar Borth Ieuenctid
Mae Porth Ieuenctid yn wasanaeth sydd yn cael ei redeg gan Gyrfa Cymru i bobl
ifanc yng Nghymru.
Sut mae'n gweithio?
Bydd gennych Gynghorydd Personol, a fydd yn eich helpu i weld pa sgiliau a thalentau sydd gennych.
Byddwch hefyd yn gosod goliau am y dyfodol, a chael help i oresgyn unrhyw rwystrau sydd gennych.
Bydd Porth Ieuenctid yn eich helpu i:
- Gael eich ysgogi
- Gwneud penderfyniadau
- Magu hyder
- Gwneud y gorau ohonoch eich hun
- Gweithio’n well fel rhan o dîm
- Gweithio ar sgiliau ymgeisio am swyddi a sgiliau cyfweliad
- Gwella eich sgiliau cyfathrebu
- Eich helpu i wneud ffrindiau
Weithiau byddwch yn gweithio yn unigol gyda'ch Cynghorydd, neu gyda grwp bach. Gallech gael y cyfle i roi cynnig ar weithgareddau awyr agored neu brosiectau celf.
Pam ymuno â'r Porth Ieuenctid?
"Pan nes i ddechrau Porth Ieuenctid ro'n i'n nerfus ond roedd pawb yn gyfeillgar ac roeddwn i'n teimlo’n gartrefol iawn yno." Donna, Abertawe.
"Mae'n eich helpu chi i reoli eich dyfodol."
Dai, Y Drenewydd
"Rydym yn teimlo'n fwy cyffyrddus i fynd i'n lleoliadau newydd ddydd Llun."
Kelly, Blaenafon
"Mae wedi fy ysgogi i a fy helpu i siarad a dweud fy marn o flaen pobl eraill."
Elen, Bangor
"Fe gawsom ni i gyd hwyl fawr, gan ddod ymlaen yn dda â'n gilydd yn y grŵp."
Gina, Caerdydd
"Mae'n agor eich meddyliau i syniadau newydd."
Chris, Wrecsam
Os ydych chi'n teimlo y gall Porth Ieuenctid eich helpu chi i ddod o hyd i'r swydd yr ydych ei heisiau, neu ddarganfod eich talentau cudd, neu'ch ysgogi chi i lwyddo, yna cysylltwch â ni.
Rydym yma ar eich cyfer chi!
|