Gyrfa Cymru Arlein
 
Hyd at 16 oed
 Hyd at 16 oed / Dewisiadau @ 14  
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
   
 
 
 
 
 
 
Cysylltu â chynghorydd gyrfa
 
hyd at 16 oed  
  Beth yw fy newisiadau?


 
Mae yna rai pynciau y mae’n rhaid i chi eu gwneud. Mae’n rhaid i chi wneud y pynciau hyn oherwydd eu bod yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau y byddwch eu hangen yn y dyfodol, fel darllen ac ysgrifennu’n glir, medru defnyddio rhifau a datrys problemau.

Y pynciau craidd yw:
- Mathemateg
- Gwyddoniaeth
- Saesneg
- Cymraeg

Efallai cewch wersi Addysg Gorfforol, Astudiaethau Crefyddol, TG, ABCh, Addysg Gyrfaoedd ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith, ond does dim rhaid sefyll arholiadau yn y pynciau hyn yn y rhan fwyaf o ysgolion.

Ewch i'r tiwtorialau Dewisiadau Blwyddyn 9 yn yr e-Ffeil Cynnydd i'ch helpu i ddewis eich pynciau.

Pa gymwysterau sydd ar gael yn eich ysgol chi?
Gofynnwch i’ch tiwtor pa rai o’r canlynol sydd ar gael yn eich ysgol:
TGAU (Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwch)
- Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn astudio 8 i 10 TGAU.

- Maent yn cynnwys cyfuniad o waith cwrs ac arholiadau

- Graddau A*-G
Tystysgrifau lefel mynediad
- Byddai'r rhain yn addas i chi pebaech yn cael TGAU yn anodd

- Ar gael mewn amrywiaeth o bynciau

- Graddau Mynediad 1, Mynediad 2 neu Fynediad 3
TGAU Galwedigaethol (VCEs)
- Cymwysterau sy’n gysylltiedig â meysydd gwaith eang fel Celf a Dylunio, Busnes a Gwyddoniaeth

- Gwaith cwrs yn bennaf, gydag ambell brawf

- Graddau A*A* -GG, yn gyfwerth â 2 TGAU.
NVQs
- Yn gysylltiedig â swyddi, e.e. trin gwallt, adeiladu

- Yn dysgu sgiliau ymarferol

- Yn gallu cynnwys rhyddhad undydd yn y coleg.
Pynciau y gallwn i eu dewis
Bydd eich athro dosbarth yn rhoi manylion y pynciau sydd ar gael yn eich ysgol chi.

Gallent gynnwys:

Ieithoedd Modern e.e. Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg neu Sbaeneg

Dylunio a Thechnoleg e.e.Deunyddiau Gwrthiannol, Technoleg Bwyd, Arlwyo, Electroneg, Tecstilau neu TGCh.

Y Dyniaethau e.e. Daearyddiaeth, Hanes neu Addysg Grefyddol.

Pynciau’n Gysylltiedig â Gwaith e.e. Astudiaethau Busnes, Peirianneg,Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Pynciau Creadigol e.e. Celf, Cerdd, Drama, Dawns.

Pynciau Newydd e.e. Cymdeithaseg, Datblygiad Plant, Astudiaethau’r Cyfryngau, Electroneg.
Beth arall ddylwn i feddwl amdano?
  Pan rydych yn dewis pa bynciau i’w hastudio, mae’n werth ystyried pa ddewisiadau allwch chi eu gwneud ar ôl Blwyddyn 11.
 
  Related Links:-  
 
Career Choice Age 14 - S-cool - subjects and careers
 
 
TŴL NEU ADNODD
  * e-Ffeil Cynnydd
  * Dewin CV
  * Gemau Cyfweliad
  * Dewis Dysgu
  * Syniadau am Yrfa
  * Y Byd Gwaith yng Nghymru
  * Lincs
  * Cysylltu â Ni
 
  * Clic Ar-lein


Fy e-Ffeil Cynnydd
Gallwch ddefnyddio'ch e-Ffeil Cynnydd i gadw manylion amdanoch chi eich hun. Mae'n bosibl cadw beth rydych chi wedi'i ddysgu o'r gemau rydych wedi'u cwblhau yn eich e-Ffeil Cynnydd, a gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon fel man cychwyn. Ewch!