|
Rydych chi ym mlwyddyn 9 ac mae’n bryd i chi ddewis beth i’w wneud yn y dyfodol.
Eleni byddwch yn dewis eich pynciau TGAU neu dystysgrif lefel mynediad, a dyma’r amser i fagu eich sgiliau. Peidiwch â phoeni os dydych chi ddim yn siwr beth rydych am wneud ar ôl gadael yr ysgol. Erbyn hyn, byddwch o leiaf an gwybod beth dydych chi ddim yn ei hoffi – dyna fan cychwyn da.
Ond cyn i chi ddechrau ffocysu ar rai pynciau a ffarwelio eraill, gwnewch ddewisiadau call, oherwydd gall y dewisiadau hyn gael effaith ar beth fyddwch yn ei wneud yn y dyfodol. Mae cadw drysau ar agor yn syniad da.
Os ydych chi’n ansicr am ddewis pynciau nawr, mae llawer o bobl o’ch cwmpas sy’n barod i roi cyngor i chi.
Yn bennaf, peidiwch ag ofni. Dyma’ch cam cyntaf tuag at ryddid. Nawr, gallwch wneud i bethau ddigwydd.
|
 |
 |
Cofiwch |
 |
 |
| |
- Ddewis y pynciau rydych yn eu mwynhau
- Dewis y pynciau rydych yn gwneud yn dda ynddynt
- Darganfod pa bynciau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa bendant
- Gwneud dewisiadau cytbwys er mwyn cadw drysau ar agor
- Siarad â’ch Cynghorydd Gyrfa a’ch athrawon
- Siarad â’ch rhieni neu’ch gofalwr
|
|
|
|
 |
 |
 |
Peidiwch â |
 |
 |
| |
- Ddewis pwnc oherwydd bod eich ffrind wedi’i ddewis
- Gwrthod pwnc achos eich bod chi’n meddwl mai ‘merched’ neu ‘fechgyn sy’n ei ddewis
- Dewis neu wrthod pwnc oherwydd dydych chi ddim yn hoffi’r athro/athrawes
- Dewis pwnc oherwydd rydych yn meddwl ei fod yn hawdd
- Dewis pwnc newydd heb ddarganfod rhagor amdano
- Dewis ar y funud olaf
|
|
|
|
|